THALLO
Senglau i ddod
Mae Côsh yn falch i gyhoeddi y bydd Thallo yn rhyddhau 3 sengl newydd sbon drwy'r label. Ers rhyddhau 'I Dy Boced' yn 2019, mae'r artist ifanc Elin Edwards a'i band wedi mynd o nerth i nerth, a bydd y deunydd newydd yn gymorth iddynt fynd i'r lefel nesa ac yn uwch.
Mae sawl un wedi canmol Thallo ac mae'n amlwg bod dyfodol disglair i'r prosiect;
Huw Stephens (BBC Radio 1) - "Maen nhw'n anhygoel! Mi wnes i wirioneddol mwynhau eu set"
Adam Walton (BBC Radio Wales) - "This has reduced me to a wet puddle of hyperbole...absolutely outstanding”
Mae Elin yn disgrifio'r swn fel "Fusion o jazz, folk, electronig, gyda threfnianau cymleth." Ac wrth drafod y broses creadigol; "Fi sy'n sgwennu'r caneuon ac wedyn yn cyd-weithio gyda'r band i greu'r cyfeiliannau creadigol."
Bydd y caneuon yn cael eu rhyddhau yn y dyfodol agos ar Recordiau Côsh, ond yn y cyfamser, cliciwch ar y lincs isod i glywed y deunydd mae Thallo wedi rhyddhau'n barod.
Côsh is pleased to announce that Thallo will release 3 brand new singles via the label. Since the release of 'I Dy Boced' in 2019, young artist Elin Edwards and her band have gone from strength to strength, and the new material will help them get to the next level and beyond.
Thallo has been praised by many and it is clear that the project has a bright future;
Huw Stephens (BBC Radio 1) - "They're amazing! I really enjoyed their set"
Adam Walton (BBC Radio Wales) - "This has reduced me to a puddle of hyperbole ... absolutely outstanding"
Elin describes the sound as "A fusion of jazz, folk, electronic, with complex arrangements." And when discussing the creative process; "I write the songs and then work with the band to create the creative accompaniments."
The songs will be released in the near future on Côsh Records, but in the meantime, click on the links below to hear the material Thallo has already released.